Your Subtitle text
Hanes
Adeiladwyd yr adeilad rhestredig yma gyda rhoddion cyhoeddus fel cofeb i drigolion lleol a fu'n ymladd ac a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae bellach yn cynnwys y rheiny a roddodd eu bywydau yn yr Ail Ryfel Byd hefyd.

Agorwyd y Neuadd Goffa gan y gwleidydd enwog a chyn-Brif Weinidog David Lloyd George, a anwyd yn lleol, yn 1922, ac mae'r adeilad yn dal i gynnwys rhai nodweddion gwreiddiol Art Deco. Mae'r gatiau haearn addurnedig gwych a roddwyd gan Sefydliad y Merched Criccieth yn arwain trwy'r ardd gyda'i lawnt taclus tuag at y brif fynedfa. Mae drysau derw crwm bendigedig wedi eu mewngosod a phaneli gwydr gwreiddiol Celf Deco yn amgylchynu'r cyntedd coffa.

Yn y 1970au gafodd yr adeilad ei adnewyddu a'i adfer gan Bwyllgor Rheoli a gymerodd drosodd rhedeg a chynnal a chadw y lleoliad gan y Cyngor lleol.

Ar ddiwedd y 1990au, gwelwyd gwelliannau enfawr pellach i'r llwyfan, goleuo, sain ac ystafelloedd gwisgo gyda chymorth arian Loteri Genedlaethol yn gwneud Theatr Goffa Criccieth yn un o'r lleoliadau adloniant gorau yn yr ardal.



Y Gwir Anrhydeddus David Lloyd George


Gellir gweld y garreg sylfaen ger y brif fynedfa i’r Neuadd
Gosod y Garreg Sylfaen
 

Rhannau cyfieithiedig o’r erthygl a gyhoeddwyd yn ‘The Times’ 5ed Mehefin 1922, yn cofnodi achlysur gosod carreg sylfaen Neuadd Goffa Cricieth.
 
“Gosododd y Prif Wenidog, a hebryngwyd gyda Mrs Lloyd George a’r Arglwydd Riddell, garreg sylfaen Neuadd Goffa Cricieth brynhawn dydd Sadwrn.
 
Bydd y Neuadd yn gallu eistedd deuddeg cant o bobl, a bydd enwau’r trideg saith dyn o Gricieth a gollodd eu bywydau wedi’u naddu ar baneli y tu mewn i’r Neuadd”.  Cyflwynwyd trywel arian i Lloyd George, a ddaru, tra’n gosod y garreg sylfaen hefyd osod sawl cofnod gan gynnwys papurau newydd, darn arian, a llythyr a ysgrifennwyd ganddo ef ei hun a ddarllenodd:

"Bu farw’r dynion ifanc hyn fel bod
Arglwyddiaeth Cywirdeb a Rheswm yn cael ei sefydlu yn fwy pendant mewn

llywodraeth dyn"

 
Wedi gosod y garreg, dywedodd Lloyd George:

"Roeddwn yn teimlo ei bod hi’n ddyletswydd arnaf i ddod yma i dalu teyrnged o barch i’r dynion pybyr hyn am eu gweithredoedd pybyr a’u haberth pybyr.
Cyn belled ac y bydd y tonnau yn taro yn erbyn yr hen graig honno (gan
bwyntio tuag at y graig lle sâf Castell Cricieth) bydd atgof o beth y gwnaeth y  dynion hyn feiddio a dioddef er mwyn hawl a chyfiawnder yn byw, ac hyd y gwna’r mynyddoedd hyn (yn trosedrych Bae Ceredigion) ddisgyn i’r môr, bydd yr
ysbrydoliaeth a ddaw o esiampl y dynion ifanc hyn yn rhywbeth fydd yn cynnal dynoliaeth am oesoedd di-rif yn ei hymdrech am bethau gwell”