
Medi
2025
Cyfarfod Blynyddol Neuadd Goffa Cricieth
Elusen Cofrestredig: 511623
Mae pwyllgor rheoli’r neuadd yn eich hysbysu y cynhelir Cyfarfod Blynyddol y Neuadd Goffa ar Ddydd Mercher, Medi 24ain 2025 am 7 yh yn y brif neuadd. Mae croeso cynnes i bawb.
​
AGENDA
1. Ymddiheuriadau
2. Derbyn cofnodion blaenorol y CB
3. Adroddiad y Cadeirydd
4. Adroddiad y Trysorydd
5. Rhestr o’r aelodau a enwebwyd
6. Ethol aelodau’r pwyllgor
7. Rhybudd 0 Gynnig Arbennig
8. Unrhyw fater arall
​
RHYBUDD O GYNNIG ARBENNIG
Mae’r elusen War Memorial Hall at Criccieth (Rhif Elusen 511623) wedi
gweithredu fel cymdeithas anghorfforedig ers ei ffurfio yn 1980.
Yn sgîl sgyrsiau yn ystod y blynyddoedd diwethaf gydag ymgynghorwyr a
darparwyr grantiau, daeth yn amlwg bod angen newid yr elusen i ffurf gorfforedig
er mwyn datblygu’r elusen ar gyfer y dyfodol. I’r perwyl hwnnw ac yn dilyn y
penderfyniad yng Nghyfarfod Blynyddol 2024 ffurfiwyd Sefydliad Elusennol
Corfforedig o’r enw Neuadd Goffa Criccieth War Memorial Hall (Rhif Elusen
1213288) gyda mwyafrif o ymddiriedolwyr presennol Elusen Rhif 511623 fel
ymddiriedolwyr cychwynnol y corff newydd.
Y bwriad ydi diddymu Elusen Rhif 511623 yn ei ffurf bresennol a throsglwyddo’i
asedau i’r Sefydliad Elusennol Corfforedig newydd (Rhif Elusen 1213288) ac fel y
gwelwch o’r Agenda bydd Rhybudd Arbennig i’r perwyl hwn yn y Cyfarfod
Blynyddol a gynhelir yn y Neuadd Goffa nos Fercher 24 Medi am 7.00 o’r gloch.
CYNNIG ARBENNIG
“Gan fod Ymddiriedolwyr presennol yr elusen a elwir War Memorial Hall at
Criccieth (Elusen Rhif 511623) yn cadarnhau
(A) bod y Sefydliad Elusennol Corfforedig o’r enw Neuadd Goffa Criccieth War
Memorial Hall (Elusen Rhif 1213288) wedi ei ffurfio
(a) I ddarparu amddiffyniad atebolrwydd cyfyngedig i ymddiriedolwyr yr
elusen,
(b) I leihau risg a
(c) I wella gallu’r elusen i ddatblygu yn y dyfodol trwy gael mynediad i
gyfleoedd a ffynonellau ariannu na fyddai ar gael i elusennau
anghorfforedig
a
(B) bod trosglwyddo asedau’r elusen a elwir War Memorial Hall at Criccieth
(Rhif Elusen 511623) i’r Sefydliad Elusennol Corfforedig newydd o’r enw
Neuadd Goffa Criccieth War Memorial Hall (Rhif Elusen 1213288) er budd
gorau’r elusen,
FE BENDERFYNIR FEL A GANLYN:
(I) bod yr elusen War Memorial Hall at Criccieth (Rhif Elusen 511623) yn cael ei
ddiddymu ar 31 Mawrth 2026 (neu unrhyw ddyddiad arall mae’r ymddiriedolwyr
yii penderfynu yn eu doethincb sydd yn briodol).
(2) yn dilyn diddymu’r elusen War Memorial Hall at Criccieth (Elusen Rhif
511623) bod eu holl asedau yn cael eu trosglwyddo i Neuadd Goffa Criccieth War
Memorial Hall (Rhif Elusen 1213288) sef Sefydliad Elusennol Corfforedig sydd
wedi ei ffurfio yn unol â Deddf Elusennau 2011.
(3) bod ymddiriedolwyr yr elusen War Memorial Hall at Criccieth (Rhif Elusen
511623) â’r hawl i arwyddo unrhyw ddogfennau sydd eu hangen er mwyn
cyfIawni’r uchod.
Chwefror 2025
Swyddog Llogi Neuadd Goffa Cricieth
Hoffem ddiolch i Jo Vincent am gymryd rôl Swyddog Llogi yn y Neuadd. Ben Rosen, Cadeirydd y Neuadd oedd y swyddog blaenorol.
Bydd Ben yn parhau yn ei rôl fel Cadeirydd y Neuadd a Chynghorydd Technegol y Neuadd a hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch iddo am ei flynyddoedd o wasanaeth yn rôl y Swyddog Llogi.
I gysylltu â Jo ar gyfer ymholiadau llogi, mae’r rhif ffôn a’r cyfeiriad e-bost yn aros yr un fath.
E-bost: bookings@cricciethmemorialhall.com
Ffôn: 01766 523672
Chwefror 2025
Swydd ar gael yn Neuadd Goffa Cricieth
Mae angen glanhäwr llawrydd
-
Telir £12.00 yr awr am ddyletswyddau glanhau, gan gynyddu i £12.50 yr awr o 1 Ebrill 2025.
-
Tua 6 - 10 awr yr wythnos.
-
Byddwch yn hunangyflogedig ac yn gyfrifol am ddidyniadau.
-
Mae dyletswyddau'n cynnwys glanhau, gosod byrddau a chadeiriau cyn digwyddiadau a chlirio, ymateb i alwadau pan fo angen.
-
Gweithio gydag eraill.
-
Oriau hyblyg
-
Mae profiad mewn glanhau masnachol yn ddefnyddiol ond rhoddir hyfforddiant.
-
Y gallu i gyfathrebu â'r tîm glanhau trwy WhatsApp
-
​
Rhoddir rhagor o wybodaeth wrth ymgeisio.
Cyfweliadau i ddilyn yn fuan.
Ymholiadau i: secretary@cricciethmemorialhall.com