Newyddion
Chwefror 2025
Swyddog Llogi Neuadd Goffa Cricieth
Hoffem ddiolch i Jo Vincent am gymryd rôl Swyddog Llogi yn y Neuadd. Ben Rosen, Cadeirydd y Neuadd oedd y swyddog blaenorol.
Bydd Ben yn parhau yn ei rôl fel Cadeirydd y Neuadd a Chynghorydd Technegol y Neuadd a hoffem gymryd y cyfle hwn i ddiolch iddo am ei flynyddoedd o wasanaeth yn rôl y Swyddog Llogi.
I gysylltu â Jo ar gyfer ymholiadau llogi, mae’r rhif ffôn a’r cyfeiriad e-bost yn aros yr un fath.
E-bost: bookings@cricciethmemorialhall.com
Ffôn: 01766 523672
2024
Grantiau Cyngor Gwynedd
Dymuna Neuadd Goffa Cricieth ddiolch i Cyngor Gwynedd am eu grant hael o £4230.00 i newid y prif ddrysau blaen i’r Neuadd/Cyntedd Coffa.
Diolch hefyd i Adam Livingston o Livingston's Joinery am eu creu a’u gosod ac i Bill Swann am ddylunio’r ddau banel gwydr lliw.
2023
Grantiau CADW
Dymuna Neuadd Goffa Cricieth ddiolch i CADW am eu grant hael o £2648.00 sef 75% o gost newid y drysau blaen gorllewinol.
Diolch hefyd i Mike Siviter a Gwynedd Joinery am eu gwaith creu a gosod ac i Bill Swann am ddylunio a chreu y paneli gwydr lliw.