
Neuadd Goffa Cricieth Prosiect Adfywio 2026
Siapio Dyfodol y Neuadd Hefo’n Gilydd
​
Mae’r Neuadd wedi bod yn ganolfan ganolog i gymuned Cricieth ers 100 mlynedd ac rydan ni am fod yma i chi am y 100 mlynedd nesa hefyd. Ond mi fydd angen cymorth arnom i wireddu hyn. Mae’r Pwyllgor wedi llwyddo i ddenu grant gwerth £15,684 gan y Gronfa Dreftadaeth Bensaernïol i gwblhau cam cyntaf y gwaith fydd yn gynllun hir dymor i sicrhau cynaladwyedd y neuadd am flynyddoedd i ddod.



Pam ydan ni’n gneud hyn?
​
Am nad oes ganddo ni ddewis.
Mae ffabrig yr adeilad yn 100 oed, sy’n golygu fod llawer o’r strwythur, toeau a’r coed (yn enwedig y ffenestri) wedi treulio
Yn y 1990au estynnwyd ac uwchraddiwyd yr adeilad i gyfarfod â gofynion y cwsmeriaid. Roedd hynny 20 mlynedd yn ôl: rydan ni angen moderneiddio a chyfarfod anghenion y gymuned yn well (gystal ag y gallwn ni o fewn y strwythur rhestredig Gradd II).
Pam fod yr adeilad wedi treulio?
Mae’r Neuadd yn adeilad mawr iawn a’n ddrud i’w redeg. Mae’n ddrud i’w wresogi, yn enwedig yn y blynyddoedd diweddar hefo costau nwy a thrydan yn uchel. Mae’r awditoriwm ei hun yn le mawr a’n wreiddiol fe’i cynlluniwyd i ddal 500 o bobol.
​
Rydan ni’n cael ein hariannu’n bennaf gan y sefydliadau a’r unigolion sy’n defnyddio’r adeilad a tydan ni ddim yn derbyn unrhyw gymhorthdal tu hwnt i’r grant blynyddol gan Gyngor Tref Cricieth. Mae’n rhaid i ni fod yn ystyrlon o’n prif bwrpas i wasanaethu Cymuned Cricieth wrth osod ein prisiau llogi.
​
Rydan ni wedi llwyddo i gael grantiau bach i ganolig ar gyfer prosiectau penodol:
-
Uwchraddio goleuadau’r awditoriwm (£19,000)
-
Adnewyddu’r ffenestri (£10,000)
-
Trwsio’r toeau fflat (£15,000)
-
Ail addurno’r gegin (£4,998)
-
Sychwyr dwylo newydd (£2,580)
-
Drysau mynedfeydd blaen a dwyreiniol (£5,000)
​
Ond, dim ond diferion yw’r rhain wrth ystyried hirhoedledd yr adeilad.
​
Rydan ni’n darganfod problemau drud yn gyson:
-
Rydan ni wedi ffeindio pydredd sych dair gwaith yn y blynyddoedd diweddar, yn bennaf oherwydd diffygion fel toeau hen a ffenestri sydd wedi dod i ddiwedd eu hoes. Mae hyn yn golygu costau sylweddol ac wedi rhwystro buddsoddiad mewn cynnal a chadw rheolaidd a chynlluniau eraill fel paentio rheolaidd a thrwsio ffenestri.
-
Gan fod yr adeilad wedi ei restru fel Gradd II mae’n anochel fod y problemau’n ddrutach ac yn fwy cymhleth
-
Mae blaen yr adeilad yn llaith iawn am ei fod yn agored i’r tywydd ac mae’r lleithder wedi treiddio i’r adeilad a threulio’r gwaith carreg
-
Mae to’r awditoriwm yn gollwng mewn dau le, mwy na thebyg oherwydd oed y to
-
Dyma rai o’r enghreifftiau o’r pryderon am yr adeilad. Mae’r grant rydan ni wedi ei dderbyn hyd yma yn caniatáu i ni roi cynllun at ei gilydd i gyfarch rhai o’r pryderon yma, fodd bynnag mi fyddwn ni angen rhagor o gyllid i gwblhau’r holl atgyweiriadau.
Beth mae’r grant GTP yn ein galluogi i’w wneud:
-
Derbyn adroddiadau arbenigol ar gyflwr yr adeilad
-
Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus gyda rhanddeiliaid, cymuned Cricieth (a’r ardaloedd cyfagos), defnyddwyr y Neuadd (gan gynnwys grwpiau proffesiynol fel Sinfonia Cymru), pobol sydd wedi prynu tocynnau neu wedi ymuno â’n rhestr bostio, ayb.
-
Paratoi cynllun manwl i sicrhau a thrwsio’r strwythur er sicrhau cynaladwyedd y neuadd ac ymorol ei bod yn diwallu anghenion ein cwsmeriaid gydag adnoddau pwrpasol hefo costau rhedeg is.
-
Sicrhau ymgynghorydd busnes i gynorthwyo gyda datblygu cynllun busnes a chais am grant sylweddol
​
Beth ydan ni wedi ei wneud hyd yn hyn?
​
Sicrhau cefnogaeth broffesiynol y codwr arian Caryl Lewis a’r Pensaer Rhodri Evans o Dobson Owen, Pwllheli.
​
Comisiynu nifer o adroddiadau arbenigol; mae’r rhain wedi ein cynorthwyo i lunio rhestr gychwynnol o’r gwaith angenrheidiol gan gynnwys:
-
Ail doi’r toeau 1920au hefo llechi dros y Brif Neuadd, yr Ystafell Werdd ac Ystafell Wisgo 2.
-
Trwsio’r gwaith carreg sydd wedi gwisgo.
-
Disodli’r pren sydd wedi pydru (yn enwedig fframiau’r ffenestri – mae’r cyfan yn cynnwys gwydr lliw) a thrin pry coed.
-
Sicrhau fod yr adeilad yn dal dŵr i ddelio hefo’r lleithder treiddiol
​​
Holiadur Ymgynghori Cymunedol: Llunio Dyfodol y Neuadd gyda’n Gilydd
O’r 1af Ebrill 2026 rydan ni’n lansio’r ymgynghoriad cyhoeddus trwy gynnal arolwg o’n holl rhanddeiliaid a phartïon sydd â diddordeb i’n cynorthwyo i sicrhau fod y neuadd yn cyfarfod anghenion y gymuned wrth symud ymlaen. Gallwch gwblhau’r arolwg yma: